Gorllewin Gwyllt Cymraeg
  • Hafan
  • Cofrestru
    • Cwpan Teulu
    • Cwpan Gorllewin Gwyllt
    • Cwpan Cardi
    • Rheolau
  • Dyfarnwyr
  • Lleoliad
    • Llety
  • Sut i Chwarae
    • Touch Evolution
  • Noddwyr
  • Blog
  • Cysylltu
    • FAQ
    • Gwasg
  • English
  • Cymraeg

Y  DIWRNOD  TEULU

Share

Twrnament  Teulu    Cyffwrdd  y  Gorllewin  Gwyllt

Bydd digwyddiad mabolgampau unigryw ar gaeau Llandysul ddydd Sadwrn 5ed Mai 2012  - Cwpan Teulu Rygbi Cyffwrdd y Gorllewin Gwyllt!

Prin iawn yw'r gemau sy'n caniatau dynion a menywod, yr ifanc a'r hen i chwarae gyda'i gilydd mewn un tîm  - ond mae Cyffwrdd yn un ohonyn nhw!  Gall brodyr, chwiorydd, cefndryd, modrybedd, cymdogion a hyd yn oed mamgu fod yn aelodau o'r tîm.  Y cyfan sydd angen ei wneud yw casglu enwau rhwng 

6 - 14 perthynas a ffrindiau agos a chofrestru'r tîm trwy gysylltu â cofrestru tîm.

Mae angen chwech aelod ar y maes ar gyfer y gêm Cyffwrdd, ond gall i fyny at 14 fod yn y garfan.  Mae hawl defnyddio eilyddion unrhywbryd felly gall hyd yn oed y rhai sydd heb ymarfer o gwbwl fynd ar y maes am gyfnod byr!

Dyma gyfle gwych i  gymeryd rhan mewn gweithgaredd cyffrous fel teulu.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 12 o’ gloch gyda sesiwn profi yn cyfeirio at rheolau a thactegau rygbi cyffwrdd.  Dylai unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth fynychu'r sesiwn hon.  Rhoddir pêl 'cyffwrdd' newydd sbon Steeden i bob tîm fel rhan o'r ffi cofrestru £29.00.

Fe fydd y gemau cystadleuol yn digwydd rhwng 2yp a 4yp, gyda chyflwyniad byr tlysau ar ôl hynny.

Picture

Timoedd  TwrnamAInt  Teulu  Cyffwrdd  y  Gorllewin  Gwyllt:

Picture
  • Lleiafrif o ddwy fenyw ar y maes drwy'r amser
  • Rhaid i ddau aelod o dan 14 oed fod ar y maes drwy'r amser
  • Rhaid i ddau aelod rhwng 15 - 29  oed fod ar y maes drwy'r amser
  • Rhaid i ddau aelod 30 oed neu drosodd  fod ar y maes drwy'r amser
  • 14 aelod ar y mwya' gan y garfan


Esiampl  o  dîm  posib - Môrladron  Pont  TYweli

  1. Sara (13 oed)
  2. Meg, ffrind Sara (13 oed)
  3. Deiniol, brawd bach Sara  (9 oed)
  4. Gruff, ffrind Deiniol (9 oed)
  5. Jac, cymydog (11 oed)
  6. Anti Gwen (25)
  7. Nwncwl Rhys (22)
  8. Dan, ffrind Rhys (22)
  9. Caryl, cariad Dan (21)
  10. Catrin, mam (37)
  11. Dai, dad (39)
  12. Nwncwl John (32)
  13. Tadcu Gwyn (58)
  14. Bopa Mel (53)
Powered by Create your own unique website with customizable templates.